archifau ymuno dolennau penawdau eraill chwilio Golwg ar y Cynulliad prynu llyfrau
RSS http://www.ycymro.co.uk/golwgarycynulliad.rss
 
  Ffaith        
gan Owen Thomas 24 viii 05    

Yn ddiweddar sefydlwyd fforwm newydd o'r enw Ffaith i sicrhau fod Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithredu er lles y Gymraeg
mewn ystod eang o feysydd.

Sefydlwyd Ffaith oherwydd bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dod i ben yn 2007 yn sgil "coelcerth y cwangos" Rhodri Morgan ond yn sgil 2007 bydd
gwagle o ran gweithredu polisïau i hyrwyddo'r Gymraeg.

Pryder rhai o aelodau Ffaith hefyd yw y bydd cyfle i Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol anwybyddu i raddau bolisïau i hybu'r defnydd
o'r Gymraeg.

Bydd Ffaith yn cwrdd am y tro cyntaf yn yr hydref i drafod sut y gall Llywodraeth y Cynulliad wirio ei haddewid i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg.

Ymhlith rhai o aelodau mwyaf blaenllaw Ffaith y mae Rhodri Glyn Thomas, AC dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ei obaith ef yw y bydd
Ffaith yn ffynhonnell syniadau ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad a bydd gwir angen fforwm o'r fath yn sgil diddymu'r Bwrdd Iaith.

Bydd croeso i bobl tu allan i'r Cynulliad ymaelodi â Ffaith a bwriad y fforwm yw cynnal gweithdai, traddodi darlithoedd a chyflwyno adroddiadau ar gyflwr yr iaith. Bydd croeso i aelodau o ba gefndir gwleidyddol bynnag y bônt osod agenda a fydd yn sicrhau fod argymhellion Iaith Pawb, sef dogfen bolisi Llywodraeth y Cynulliad ar y Gymraeg, yn cael eu gwireddu.

"Ar hyn o bryd y mae'n anodd gweld a oes unrhyw strategaeth gan Lywodraeth y Cynulliad ar sut i gyrraedd y nod o gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg o 5% erbyn 2011 (sef dyddiad y Cyfrifiad nesaf) a geir yn Iaith Pawb," meddai Rhodri Glyn Thomas.

Aelod arall o Ffaith yw'r Democrat Rhyddfrydol Nick Bennett a ddywed fod angen fforwm o'r fath i gasglu ffeithiau o bedwar ban byd i weld beth sydd yn gweithio i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol. Nid beirniadu Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol fydd y nod, yn ôl Nick Bennett, ond "casglu gwybodaeth i godi safon y drafodaeth ar y Gymraeg".

Fodd bynang, un o'r problemau sydd yn wynebu Ffaith yw codi digon o gyllid i gynnal gweithgareddau arfaethedig y fforwm. Oherwydd hyn, nid oes modd cymharu Ffaith â Bwrdd yr Iaith Gymraeg sydd yn cael ei ariannu gan y Cynulliad Cenedlaethol. O reidrwydd bydd natur
gweithgareddau'r fforwm yn gyfyng ac, yn hytrach nag estyn cymorth ymarferol, er enghraifft, i brosiectau hybu iaith neu i fudiadau sydd yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, fforwm i drafod syniadau a pholisïau yn unig fydd Ffaith.

 
 
 
Google
©2005. Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o'r wefan hon na'i chadw mewn cyfundrefn adferadwy na'i throsglwyddo mewn unrhyw gyfrwng electronig neu fecanyddol nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan yr awdur Owen Thomas. Sefydlwyd y wefan hon gyntaf ym mis Ionawr 2000. Cynhwysir erthyglau sydd yn dyddio o 1998 pan ddechreuwyd 'Golwg ar y Cynulliad' yn Y Cymro.